PWNC LLOSG - RADICAL INTIMACY gyda sophie k rosa a sam james. blog gan amira hayat
Mae Pwnc Llosg yn grŵp dan arweiniad pobl ifanc sy'n ymdrechu i feithrin cyfleoedd i unrhyw un gymryd rhan mewn trafodaethau am faterion cyfoes, gan wneud lle i ryngweithio â phynciau heriol ac agor eich meddwl i syniadau a safbwyntiau newydd. Mae ein digwyddiadau’n cael eu llywio gan ein cyd-destun lleol yng Nghaerdydd a chyd-destun ehangach Cymru. Rydym yn datblygu cwestiynau cyfoes fel cydweithfa, wedi'u llywio gan ein profiadau bywyd yng Nghymru a thrwy Gymraeg.
Roedd y sesiwn ystafell ddarllen gyntaf ar 'Radical Intimacy' gan Sophie K. Rosa, wedi'i hwyluso gan Sam Rogers, trefnydd cymunedol, actifydd ac awdur. Fe wnaeth aelodau cydweithfa Pwnc Llosg, Dan Southhall, ymchwilydd PhD ac awdur y mae ei waith yn canolbwyntio ar athroniaeth a hunaniaeth Gymreig a Samia Yassine, myfyrwraig Meistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol ac actifydd, agor y sgwrs, gan ofyn sut mae teitl y llyfr yn ymwneud â'r persbectif Cymraeg. Rhannodd Dan a Samia fod Radical Intimacy yn cyfieithu yn agosaf at Agosatrwydd Chwyldroadol yn Gymraeg. Fe wnaeth hyn i ni feddwl am sut mae hyn yn wahanol i Radical Intimacy ac ail-fframio ein hymateb i’r cwestiwn cyntaf 'Beth yw Radical Intimacy?'.
Rhannodd Sophie ei bod hi eisiau enwi'r llyfr yn 'Intimate Comrades' yn wreiddiol, ond ar ôl adolygu a golygu, Radical Intimacy oedd y teitl y setlwyd arno (sy’n well ganddi mewn gwirionedd). Y gair intimacy yn y llyfr hwn i'w ddiffinio fel 'ffurfiau ar gysylltiad' a 'gofal', bod yn bresennol nid yn absennol, a radical yw'r math o radicaliaeth wleidyddol sy'n ceisio trawsnewid y byd. Nod y llyfr ei hun yw mynd at 'wraidd agosatrwydd fel sy’n gyfarwydd i ni'. Mae'r themâu hyn yn cael eu cynnal trwy'r sgyrsiau a gynhelir yn yr ystafell.
Wrth drafod ac archwilio thema perthnasoedd annhrafodiadol, dechreuon ni drwy feddwl am beth yw perthnasoedd annhrafodiadol a sut i’w disgrifio. Un o'r enghreifftiau cyntaf yw ein perthynas â’r byd. Mae Rosa yn rhannu bod rhaid i ni, er mwyn gwir garu mewn unrhyw fath o berthynas, frwydro yn erbyn ein gwendidau a'n diffygion ein hunain megis narsisiaeth a hunanfalchder a gall hynny fod yn anodd iawn ei wneud. Y ffordd rydyn ni’n cael profiad o bobl yw fel pe baen nhw mewn bydysawd ar wahân, gan gynnwys ymddygiadau a phrofiadau sy’n wahanol i’n rhai ni. Rhannodd llawer o gyfranogwyr eu bod yn credu bod diffyg tosturi a’r angen am gysylltiad dynol go iawn yn ein cymdeithas gyfoes, gan adael bron dim lle i fynd at wraidd pobl, a'r hyn sy'n eu gwneud pwy ydyn nhw mewn gwirionedd. Yng nghyd-destun Cymru, soniodd aelodau'r grŵp am eu profiad o gael eu magu yng Nghymru yn y 90au a dechrau'r 2000au, a dywedon nhw y bu ymdeimlad gwirioneddol o gyfeillgarwch, perthynas a chymuned. Roedden nhw'n gwybod y gallent dreulio amser gyda'u cymdogion oherwydd eu bod wedi meithrin perthynas gref â phobl yn eu cymdogaeth ac felly arweiniodd hyn at ymdeimlad cryf o gymuned a pherthyn. Nid oedd y perthnasoedd hyn yn annhrafodiadol, gan eu bod yn treulio amser gyda'i gilydd gan eu bod o bwys iddyn nhw, nid er mwyn cael rhywbeth. Mae llawer o'r cyfranogwyr yn teimlo fel bod hyn yn rhywbeth nad yw'n bodoli i'r un graddau mewn gwirionedd. Efallai ein bod yn adnabod rhai o'n cymdogion ac yn eu cyfarch wrth fynd heibio iddyn nhw, ond does dim ymdeimlad dwfn o gyfeillgarwch, cymuned ac ymddiriedaeth fel yr oedd unwaith.
Mae Rosa yn rhannu o'i phrofiad ei hun o redeg cydweithfa gymunedol bod meithrin perthnasoedd yn y gymuned yn golygu nad yw perthnasoedd yn gallu bod yn drafodiadol. Does gennych chi ddim dewis ond gweithio gyda'ch gilydd, gan ddatblygu gwydnwch personol ac amynedd gydag eraill, ac mae modd cymhwyso hyn i actifiaeth, dysgu llywio trwy densiwn yn ogystal â chynnal undod ymhlith ei gilydd. Yn yr un modd, mae'r ymdeimlad o gymuned ac ymddiriedaeth sydd wedi'i golli mewn cymunedau hefyd yn digwydd mewn grwpiau actifyddion. Yn anffodus, mae llawer o grwpiau yn cael eu rhannu ymhellach gan fân wahaniaethau ac mae hyn yn gallu effeithio ar ymddiriedaeth, undod a chymuned. Gyda'r syniad o berthnasoedd annhrafodiadol, gallwn ddysgu llywio o gwmpas ein gwahaniaethau wrth ddal i weithio tuag at gyflawni'r prif nod. Mae hyn yn hanfodol i Pwnc Llosg fel grŵp dan arweiniad pobl ifanc nad yw'n osgoi trafodaethau am bynciau cyfoes sy'n effeithio ar bobl o bob cefndir. Bydd llawer ohonom wedi cael profiadau bywyd gwahanol, ond mae'n bwysig cofio y gallwn ddysgu oddi wrth ein gilydd a dal i weithio tuag at ein nod o ddysgu, trafod ac agor ein meddyliau i safbwyntiau eraill.
Mae'r sgwrs nesaf yn archwilio themâu mamolaeth, gofal a thosturi, gan drafod pa mor gyffredin yw hi i rywun mewn grŵp ymgymryd â’r rôl llafur gofalgar fel 'mam' a gellir gweld hyn, mewn rhai ffyrdd, fel rhywbeth echdynnol a gormesol. Mae hyn yn gallu arwain at broblemau eraill megis cyflyru o ran rhywedd, cymdeithasoli rhywedd a sut maen nhw’n gallu effeithio ar ofal. Yn hytrach, byddai'n iachach gallu dysgu eraill sut i fod yn dosturiol ac yn ofalgar hefyd, ac felly gallu gofalu am ei gilydd.
O ran Cymru, yn benodol Caerdydd, sut rydyn ni'n dychmygu dyfodol Caerdydd yng nghyd-destun gofal? I drafod hyn, roedd ail ran y digwyddiad yn cynnwys pawb yn rhannu'n grwpiau llai o bedwar i bump o bobl i drafod syniadau gwahanol. Pan ddaethon ni’n ôl at ein gilydd i rannu, roedd yr ystafell yn ferw o syniadau a phrofiadau, gan siarad am Tiger Bay a'i ddiwylliant a'i threftadaeth, y ffyrdd y mae pobl yn arfer rhyngweithio â'i gilydd yn groes i’r gymdeithas gyfoes. Awgrymodd eraill fod cyfalafiaeth wedi effeithio ar y gymuned, gan ddefnyddio enghreifftiau o ddigwyddiadau mawr fel cyngherddau, gemau pêl-droed a rygbi, sy'n cael eu cynnal yn y ddinas a'i effeithiau ar y bobl leol o ran hil, hygyrchedd, byw, gan arwain at sgyrsiau ynghylch boneddigeiddio a'i effaith ar y gymuned. Roedd llawer yn rhannu bod Caerdydd yn teimlo'n llawer mwy diogel o'i chymharu â dinasoedd eraill fel Llundain a Manceinion, ond maen nhw'n teimlo ei bod hi’n newid mwy a mwy ac yn mabwysiadu'r un nodweddion â dinasoedd mwy. Mae pobl yng Nghaerdydd yn cael eu disgrifio fel rhai caredig, cyfeillgar a chymwynasgar, ond maen nhw hefyd yn teimlo nad oes perthnasoedd a chysylltiadau go iawn’ yng Nghaerdydd yn gyffredinol, fel y mae ar hyn o bryd, ac felly mae hynny’n gallu teimlo’n ffals. Po fwyaf y mae Caerdydd yn ymdebygu i ddinas fawr, y mwyaf rydyn ni'n cydnabod pŵer meithrin a chynnal agosatrwydd chwyldroadol. Dyma pam mae gofodau fel The Canopi a chydweithfeydd fel Pwnc Llosg yn hanfodol wrth feithrin a chynnal agosatrwydd chwyldroadol, gan ddod â phobl o gymunedau lleol at ei gilydd i siarad, dysgu a thrafod.