Beth i’w ddisgwyl

Bydd ystafell ddarllen Pwnc Llosg bob amser yn cynnwys:

  • sesiwn Holi ac Ateb rhwng awdur Gwasg Pluto a hwylusydd Pwnc Llosg

  • amser i rannu’r ystafell i mewn i grwpiau trafod llai

  • agor y sesiwn Holi ac Ateb i unrhyw un ofyn cwestiynau i'r awdur a'r hwylusydd

  • cacennau a diodydd meddal i bawb

  • adnodd wedi’i gynhyrchu ar ôl y digwyddiad, sy'n tynnu sylw at themâu a chwestiynau allweddol, a fydd yn cael ei anfon at yr holl fynychwyr a'i gyhoeddi ar ein gwefan

Nov
2

Perfformiad a Sgwrs

Ymunwch â ni am berfformiad byr ac yna sgwrs ar y cyd am dai a lle i bobl ifanc yng Nghaerdydd.

Ynglŷn â'r perfformiad:

Mae taith ansicr Annie o ran tai wedi dod i ben o'r diwedd. Y cyfan mae hi eisiau yw rhannu ei bywyd newydd gyda'r un person a wnaeth iddi deimlo'n gartrefol, cyn iddi hyd yn oed wybod beth oedd cartref.

Cafodd y ddrama ei chomisiynu’n wreiddiol gan Cwmpas, a’i gwneud mewn cydweithrediad â phrosiect Peiriannydd Pwnc Llosg a'i chefnogi gan Rhisom Cooperative, ac mae’n archwilio rhai o'r problemau tai y mae pobl ifanc lleol yn eu hwynebu. Ymunwch â'r sgwrs sy’n dilyn y perfformiad 30 munud, gyda'r cyfle i ofyn eich cwestiynau i'r tîm creadigol, yr ymchwilwyr ieuenctid a'r gymuned yn yr ystafell.

View Event →

Cwestiynau Cyffredin

oes rhaid i fi dalu?

nac oes!

Mae pob un o'n Hystafelloedd Darllen Pwnc Llosg yn rhad ac am ddim.

a fydd byrbrydau a diodydd ar gael?

bydd detholiad o ddiodydd poeth ac oer yn cael eu darparu gan staff caffi Canopi, yn ogystal â chacennau (does dim rhaid i chi dalu am y rhain, chwaith!)

bydd opsiwn figan a di-glwten, os oes alergedd neu ofyniad deietegol penodol yr hoffech ofyn amdano, cysylltwch â ni!

oes rhaid i fi archebu tocyn?

oes, mae rhaid i chi archebu tocyn ar gyfer pob digwyddiad rydych chi am ddod iddo

pa mor brysur fydd hi?

fydd byth mwy na phump ar hugain o bobl yn bresennol.

rydyn ni’n gwneud hyn i sicrhau bod y digwyddiad yn werthfawr ac ystyrlon i bawb sy'n dod draw!

a fydd seibiannau?

bydd, yn ystod y digwyddiad Ystafell Ddarllen arferol sy’n ddwy awr, bydd egwyl.

oes angen i fi ddarllen y llyfr ymlaen llaw?

does dim angen i chi fod wedi darllen y llyfr!

dewch â'ch chwilfrydedd a meddwl agored.