SGWRS GYDA sophie k rosa

wedi’i HWYLUSO GAN Sam Rogers

BLOG GAN
AMIRA HAYAT

Mae Pwnc Llosg yn grŵp dan arweiniad pobl ifanc sy'n ymdrechu i feithrin cyfleoedd i unrhyw un gymryd rhan mewn trafodaethau am faterion cyfoes, gan wneud lle i ryngweithio â phynciau heriol ac agor eich meddwl i syniadau a safbwyntiau newydd. Mae ein digwyddiadau’n cael eu llywio gan ein cyd-destun lleol yng Nghaerdydd a chyd-destun ehangach Cymru. Rydym yn datblygu cwestiynau cyfoes fel cydweithfa, wedi'u llywio gan ein profiadau bywyd yng Nghymru a thrwy Gymraeg. 

            Roedd y sesiwn ystafell ddarllen gyntaf ar 'Radical Intimacy' gan Sophie K. Rosa, wedi'i hwyluso gan Sam Rogers, trefnydd cymunedol, actifydd ac awdur. Fe wnaeth aelodau cydweithfa Pwnc Llosg, Dan Southhall, ymchwilydd PhD ac awdur y mae ei waith yn canolbwyntio ar athroniaeth a hunaniaeth Gymreig a Samia Yassine, myfyrwraig Meistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol ac actifydd, agor y sgwrs, gan ofyn sut mae teitl y llyfr yn ymwneud â'r persbectif Cymraeg. Rhannodd Dan a Samia fod Radical Intimacy yn cyfieithu yn agosaf at Agosatrwydd Chwyldroadol yn Gymraeg. Fe wnaeth hyn i ni feddwl am sut mae hyn yn wahanol i Radical Intimacy ac ail-fframio ein hymateb i’r cwestiwn cyntaf  'Beth yw Radical Intimacy?'. 

Rhannodd Sophie ei bod hi eisiau enwi'r llyfr yn 'Intimate Comrades' yn wreiddiol, ond ar ôl adolygu a golygu, Radical Intimacy oedd y teitl y setlwyd arno (sy’n well ganddi mewn gwirionedd). Y gair intimacy yn y llyfr hwn i'w ddiffinio fel 'ffurfiau ar gysylltiad' a 'gofal', bod yn bresennol nid yn absennol, a radical yw'r math o radicaliaeth wleidyddol sy'n ceisio trawsnewid y byd. Nod y llyfr ei hun yw mynd at 'wraidd agosatrwydd fel sy’n gyfarwydd i ni'. Mae'r themâu hyn yn cael eu cynnal trwy'r sgyrsiau a gynhelir yn yr ystafell.

Wrth drafod ac archwilio thema perthnasoedd annhrafodiadol, dechreuon ni drwy feddwl am beth yw perthnasoedd annhrafodiadol a sut i’w disgrifio. Un o'r enghreifftiau cyntaf yw ein perthynas â’r byd. Mae Rosa yn rhannu bod rhaid i ni, er mwyn gwir garu mewn unrhyw fath o berthynas, frwydro yn erbyn ein gwendidau a'n diffygion ein hunain megis narsisiaeth a hunanfalchder a gall hynny fod yn anodd iawn ei wneud. Y ffordd rydyn ni’n cael profiad o bobl yw fel pe baen nhw mewn bydysawd ar wahân, gan gynnwys ymddygiadau a phrofiadau sy’n wahanol i’n rhai ni. Rhannodd llawer o gyfranogwyr eu bod yn credu bod diffyg tosturi a’r angen am gysylltiad dynol go iawn yn ein cymdeithas gyfoes, gan adael bron dim lle i fynd at wraidd pobl, a'r hyn sy'n eu gwneud pwy ydyn nhw mewn gwirionedd. Yng nghyd-destun Cymru, soniodd aelodau'r grŵp am eu profiad o gael eu magu yng Nghymru yn y 90au a dechrau'r 2000au, a dywedon nhw y bu ymdeimlad gwirioneddol o gyfeillgarwch, perthynas a chymuned. Roedden nhw'n gwybod y gallent dreulio amser gyda'u cymdogion oherwydd eu bod wedi meithrin perthynas gref â phobl yn eu cymdogaeth ac felly arweiniodd hyn at ymdeimlad cryf o gymuned a pherthyn. Nid oedd y perthnasoedd hyn yn annhrafodiadol, gan eu bod yn treulio amser gyda'i gilydd gan eu bod o bwys iddyn nhw, nid er mwyn cael rhywbeth. Mae llawer o'r cyfranogwyr yn teimlo fel bod hyn yn rhywbeth nad yw'n bodoli i'r un graddau mewn gwirionedd. Efallai ein bod yn adnabod rhai o'n cymdogion ac yn eu cyfarch wrth fynd heibio iddyn nhw, ond does dim ymdeimlad dwfn o gyfeillgarwch, cymuned ac ymddiriedaeth fel yr oedd unwaith.

Mae Rosa yn rhannu o'i phrofiad ei hun o redeg cydweithfa gymunedol bod meithrin perthnasoedd yn y gymuned yn golygu nad yw perthnasoedd yn gallu bod yn drafodiadol. Does gennych chi ddim dewis ond gweithio gyda'ch gilydd, gan ddatblygu gwydnwch personol ac amynedd gydag eraill, ac mae modd cymhwyso hyn i actifiaeth, dysgu llywio trwy densiwn yn ogystal â chynnal undod ymhlith ei gilydd. Yn yr un modd, mae'r ymdeimlad o gymuned ac ymddiriedaeth sydd wedi'i golli mewn cymunedau hefyd yn digwydd mewn grwpiau actifyddion. Yn anffodus, mae llawer o grwpiau yn cael eu rhannu ymhellach gan fân wahaniaethau ac mae hyn yn gallu effeithio ar ymddiriedaeth, undod a chymuned. Gyda'r syniad o berthnasoedd annhrafodiadol, gallwn ddysgu llywio o gwmpas ein gwahaniaethau wrth ddal i weithio tuag at gyflawni'r prif nod. Mae hyn yn hanfodol i Pwnc Llosg fel grŵp dan arweiniad pobl ifanc nad yw'n osgoi trafodaethau am bynciau cyfoes sy'n effeithio ar bobl o bob cefndir. Bydd llawer ohonom wedi cael profiadau bywyd gwahanol, ond mae'n bwysig cofio y gallwn ddysgu oddi wrth ein gilydd a dal i weithio tuag at ein nod o ddysgu, trafod ac agor ein meddyliau i safbwyntiau eraill.

Mae'r sgwrs nesaf yn archwilio themâu mamolaeth, gofal a thosturi, gan drafod pa mor gyffredin yw hi i rywun mewn grŵp ymgymryd â’r rôl llafur gofalgar fel 'mam' a gellir gweld hyn, mewn rhai ffyrdd, fel rhywbeth echdynnol a gormesol. Mae hyn yn gallu arwain at broblemau eraill megis cyflyru o ran rhywedd, cymdeithasoli rhywedd a sut maen nhw’n gallu effeithio ar ofal. Yn hytrach, byddai'n iachach gallu dysgu eraill sut i fod yn dosturiol ac yn ofalgar hefyd, ac felly gallu gofalu am ei gilydd.

O ran Cymru, yn benodol Caerdydd, sut rydyn ni'n dychmygu dyfodol Caerdydd yng nghyd-destun gofal? I drafod hyn, roedd ail ran y digwyddiad yn cynnwys pawb yn rhannu'n grwpiau llai o bedwar i bump o bobl i drafod syniadau gwahanol. Pan ddaethon ni’n ôl at ein gilydd i rannu, roedd yr ystafell yn ferw o syniadau a phrofiadau, gan siarad am Tiger Bay a'i ddiwylliant a'i threftadaeth, y ffyrdd y mae pobl yn arfer rhyngweithio â'i gilydd yn groes i’r gymdeithas gyfoes. Awgrymodd eraill fod cyfalafiaeth wedi effeithio ar y gymuned, gan ddefnyddio enghreifftiau o ddigwyddiadau mawr fel cyngherddau, gemau pêl-droed a rygbi, sy'n cael eu cynnal yn y ddinas a'i effeithiau ar y bobl leol o ran hil, hygyrchedd, byw, gan arwain at sgyrsiau ynghylch boneddigeiddio a'i effaith ar y gymuned. Roedd llawer yn rhannu bod Caerdydd yn teimlo'n llawer mwy diogel o'i chymharu â dinasoedd eraill fel Llundain a Manceinion, ond maen nhw'n teimlo ei bod hi’n newid mwy a mwy ac yn mabwysiadu'r un nodweddion â dinasoedd mwy. Mae pobl yng Nghaerdydd yn cael eu disgrifio fel rhai caredig, cyfeillgar a chymwynasgar, ond maen nhw hefyd yn teimlo nad oes perthnasoedd a chysylltiadau go iawn’ yng Nghaerdydd yn gyffredinol, fel y mae ar hyn o bryd, ac felly mae hynny’n gallu teimlo’n ffals. Po fwyaf y mae Caerdydd yn ymdebygu i ddinas fawr, y mwyaf rydyn ni'n cydnabod pŵer  meithrin a chynnal agosatrwydd chwyldroadol. Dyma pam mae gofodau fel The Canopi a chydweithfeydd fel Pwnc Llosg yn hanfodol wrth feithrin a chynnal agosatrwydd chwyldroadol, gan ddod â phobl o gymunedau lleol at ei gilydd i siarad, dysgu a thrafod. 

PODCAST
GYDA SAM

Trafodaeth adlewyrchol rhwng Sam Rogers, Cyfaddefwr, a Dan Southall, ‘Cysgod Cymreig’

Annwyl Dan,

Mae'r syniad o gyfieithu ‘Radical Intimacy’ yn rhywbeth fel agosatrwydd chwyldroadol yn Gymraeg yn ddiddorol. A allwch chi ymhelaethu ar hyn? Pam ‘chwyldroadol’ yn hytrach na ‘radical’? A pham mae ‘radical’ yn gymhleth yn Gymraeg?

Diolch

Sam

Annwyl Sam,

Er mwyn mynd i'r afael â hyn, gallem ddechrau gyda'r gair 'radical' yn gyntaf. Yn Gymraeg, rydym hefyd yn defnyddio'r gair radical. Ond mewn gwirionedd, ychydig iawn o ystyr a gwerth ymarferol sydd i'r gair 'radical' yn Gymraeg. Mae hyn

oherwydd yn aml, mae pobl a syniadau sy'n cael eu galw’n radical yn ffyrdd normadol o fyw yng Nghymru. Yma, rwy'n meddwl am siaradwyr Cymraeg, neu, yn hanesyddol, mudiadau’r Siartwyr a’r Anghydffurfwyr. Yn hytrach, yn enwedig yn yr ysgol, rydym yn defnyddio'r term 'chwyldroadol' yn Gymraeg yn bennaf, sydd â chysylltiadau clir â gweithredu a chynnydd.

Yn Gymraeg, nid oes cyfieithiad uniongyrchol perffaith i’r gair ‘intimacy’. Yn Gymraeg, byddem yn dweud ‘agosatrwydd’ neu ‘agos at’. Mae'r gair hwn yn cael ei ddefnyddio mewn modd gofodol a throsiadol, gan olygu yn y bôn bod yn rhaid i ni ddod mor agos â phosibl at yr hyn rydym am fod yn ‘intimate’ ag ef. Rwy'n dehongli hyn fel y pwynt lle mae'r ffin rhwng "Rydw i" a "Rydyn ni" yn dechrau diflannu. Yma, gwelwn fod 'agosatrwydd' yn Gymraeg yn gweithredu fel cyfarwyddyd sy'n cynnwys perthynas o agosrwydd, ac nid yw'r berthynas hon o reidrwydd rhwng pobl. 

Mae cyfuno'r ddau yn arwain at 'Agosatrwydd Chwyldroadol'. Mae hyn yn ymddangos yn llai amwys, yn llai o ddeialog, ac yn llai rhamantus, ac mae ganddo gyseiniant gwleidyddol cyfunol cryfach. Yma gwelwn sut y gall newid y geiriau’n gynnil (bron yn bedantaidd) newid y delweddau meddyliol a'r neges, yn dibynnu ar ystyr byw’r iaith a ddefnyddiwn.

Hwyl am y tro, 

Dan


Annwyl Dan,

Mae hynny'n hynod ddiddorol. Yn enwedig y syniad o'r ffin rhwng "rydw i" a "rydyn ni" yn diflannu. 

Sut mae'r "ni" byw neu'r agosatrwydd hwn yn amlygu ei hun yn niwylliant Cymru? Rwy’n dychmygu ei fod yn edrych yn wahanol iawn mewn llefydd mwy cosmopolitaidd fel Casnewydd neu Gaerdydd.

Diolch, 

Sam


Mae hynny'n gwestiwn diddorol ac yn un sy'n eithaf anodd ei ateb yn gryno. Mae dod yn gymundod, neu'r weithred o seilio eich hun mewn cymuned, yn rhywbeth y mae diwylliant cyffredin yng Nghymru yn ymfalchïo ynddo. Mae enghreifftiau o drefi diwydiannol gyda'u rhwydweithiau cymdeithasol yn dod i'r meddwl. Yn amlwg erbyn hyn, mae siarad Cymraeg ag eraill, yn enwedig mewn byd lle mae’r Saesneg yn hollbresennol, yn rhywbeth sydd i’w weld yn meithrin agosatrwydd wrth i rywun nid yn unig ymuno â chymundeb ag eraill ond hefyd datblygu safbwynt cyffredin trwy gael mynediad i fyd y Gymraeg. 

Yn anffodus, yr hyn y gallech fod yn cyfeirio ato mewn ardaloedd cosmopolitaidd yw'r diffyg seilwaith cymdeithasol neu ymdeimlad cymunedol, sydd, yn fy marn i, wedi gwneud Caerdydd yn ddim ond dinas arall yn y DU. Byddai gen i ddiddordeb mewn gwybod beth yw eich barn chi, ac a ydych chi'n cytuno, o ystyried eich sefyllfa hynod ddefnyddiol fel mewnwr/allanwr yng Nghaerdydd. Ydyn ni'n gweld unrhyw enghreifftiau o agosatrwydd chwyldroadol, neu o “fi” yn troi’n “ni”?


Diolch am eich ateb!

Rydw i wedi profi a gweld y gydberthynas/agosrwydd 'ni' yma yng Nghaerdydd yn bendant, ond rwy’n meddwl ei fod yn llai seiliedig ar deimlad o Gymreictod, yn hytrach fel arfer yn fwy seiliedig ar deimlad o arallrwydd, a allai gynnwys siarad Cymraeg mewn dinas Saesneg iawn, fel y sonioch chi amdano. Hynny yw, rydw i wedi gweld y cyfunoldeb / diwylliant 'ni' hwn mewn cymunedau Cwiar, grwpiau Cymraeg eu hiaith, a chymunedau actifyddion yng Nghaerdydd.

Mae'n ddiddorol i ni sy'n siarad Saesneg yn unig glywed safbwyntiau am Radical Intimacy gan y rhai sy'n siarad ieithoedd eraill. Beth oedd y prif syniad/safbwynt a gymeroch chi o'r llyfr fel siaradwr Cymraeg y credwch y byddai siaradwyr Saesneg wedi ei golli?

Ahh, rwy'n gweld, rwy'n credu bod y syniad hwnnw o arallrwydd yn bendant yn wir yn ein henghreifftiau o gyfunoldeb, bron fel pe bai rhywun yn brwydro yn erbyn y norm pennaf; hynny yw, yn cael ei ddenu at eraill trwy angenrheidrwydd cryfder cyfunol yn hytrach na fel sgil-gynnyrch byw mewn cymdeithas sy'n darparu cydweithrediad o'r fath neu’n ei annog yn weithredol.

Am wn i, nid yn unig trwy'r llyfr ond yn ystod y drafodaeth grŵp, cefais fy atgoffa ein bod weithiau'n cael ein cyflyru i edrych i lawr ar y gorffennol, fel pe bai'n hollol groes i'n dymuniad am gymdeithas fwy blaengar a datblygedig. Fel siaradwr Cymraeg, un o’r cysyniadau annatod sydd gennym yw ein bod yn ddyledus i'r gorffennol, oherwydd bod y geiriau rydym yn eu siarad wedi'u hetifeddu o'u cyflawniadau. Wrth edrych drwy'r lens hon, gellir darganfod agosatrwydd chwyldroadol drwy ddialecteg onest rhwng 'y gymuned' a feithrinwyd mewn cymunedau diwydiannol Cymru a'r cynildeb emosiynol a'r amrywiaeth y mae Sophie K. Rosa yn dechrau eu cyflwyno (y mae anarchiaeth perthynas yn un o’r cysyniadau). 

I gloi, a oes unrhyw beth, boed yn gysyniad damcaniaethol, yn syniad neu’n rhyngweithiad yn ystod y digwyddiad, sydd wedi aros gyda chi?


Diolch am eich e-bost. 

Mewnwelediadau gwych unwaith eto! Rwy wrth fy modd â'r syniad o berthynas fyw gyda'r gorffennol. Rydym yn sicr wedi ein ffurfio gan y gorffennol, boed hynny o ran iaith, diwylliant, neu isddiwylliant. 

Rwy'n credu mai'r syniad a arhosodd gyda mi fwyaf o'r sgyrsiau yn yr ystafell ddarllen oedd y syniad o addysgu pobl am ofal o fewn symudiadau ac addysgu grwpiau sut i rannu'r llwyth emosiynol gyda sgiliau gofalu.

Diolch am drafodaeth drwy e-bost. 

Sam